#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-718

Teitl y ddeiseb: Cyflogau GIG Cymru

Testun y ddeiseb: Sut all hi fod yn iawn bod gweithwyr y GIG yng Nghymru, sy’n gwneud swyddi angenrheidiol, yn ennill cyflog mor isel â £7.80 yr awr pan fo Llywodraeth Cymru yn ariannu’r fath swyddi di-ddim â Chomisiynydd y Dyfodol ar £100k y flwyddyn a Chomisiynydd y Gymraeg ar £90k a nifer o swyddi newydd tebyg. Mae’r haenau newydd hyn o swyddi di-ddim yn wirion a dylid eu diddymu a rhoi’r arian i staff y GIG sydd ar gyflogau isel.

 

Y cefndir

Corff annibynnol yw Corff Adolygu Cyflogau'r GIG (NHSPRB) sy'n gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU ar gyflogau, telerau ac amodau gwaith pob aelod o staff a delir o dan yr Agenda ar gyfer Newid ac a gyflogir yn y GIG. Mae hyn yn cynnwys gwneud argymhellion i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon yng Nghymru. Wrth lunio ei argymhellion mae'r Corff Adolygu yn cymryd tystiolaeth gan y pedair llywodraeth yn y DU, undebau llafur a chyflogwyr y GIG. Rhaid iddo ystyried y canlynol wrth lunio ei argymhellion:

§    yr angen i recriwtio, cadw a chymell staff sydd â'r sgiliau a'r cymwysterau priodol;

§    amrywiadau rhanbarthol/lleol yn y marchnadoedd llafur a'u heffaith ar recriwtio a

chadw staff;

§    yr arian sydd ar gael i'r Adrannau Iechyd, fel y nodir yn Nherfyn Gwariant Adrannol (DEL) y Llywodraeth;

§    targed chwyddiant y Llywodraeth;

§    yr egwyddor o gyflog cyfartal am waith o werth cyfartal yn y GIG;

§    y strategaeth gyffredinol y dylai'r GIG osod cleifion wrth wraidd popeth a wna a'r

 mecanweithiau ar gyfer cyflawni hynny.

 

Cyhoeddodd yr NHSPRB ‘NHS Pay Review Body. Twenty-Ninth Report 2016’  sy'n nodi argymhellion 2016/17 ar y codiad cyflog ar gyfer staff y GIG, gan gynnwys cynnydd o 1 y cant ar gyfer pob pwynt cyflog yn yr Agenda ar gyfer Newid o 1 Ebrill 2016 yn Lloegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio bod y NHSPRB yn llunio argymhellion ar adeg o newid cymhleth ar gyfer y GIG ledled y DU: 

All four countries are aiming simultaneously to meet demanding efficiency targets and deliver transformational change through service redesign and new models of care, whilst continuing to respond to every day service requirements and meet the demands of regulators.

Public sector pay policy has been set out by the UK government for the next four years and provides the context for our recommendations in England. The policy position for Scotland, Wales and Northern Ireland is short term for this year’s remit, given that these countries all have elections in May 2016. However, with public money remaining constrained, it seems highly likely that public sector pay restraint will continue for some years. We will have an increasingly important role to monitor the sustainability of this policy for our remit group, in whole or in part. Agenda for Change pay scales need to be seen as competitive, to attract and retain the calibre of staff required to support and deliver high quality patient care. This means taking a longer term view as well as making our annual recommendations.

 

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Derbyniodd Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol blaenorol, yr argymhellion ar gyflogau a wnaeth Corff Adolygu Cyflogau'r GIG a'r Corff Adolygu Taliadau Meddygon a Deintyddion - yn unol â'r cynigion a wnaed mewn mannau eraill yn y DU.  

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chylchlythyr cyflogau AfC(W)1/2016 i Fyrddau Iechyd/Ymddiriedolaethau'r GIG ar 30 Mawrth 2016, yn eu hysbysu am y trefniadau cyflog ar gyfer gweithwyr sy'n destun y cytundeb Agenda ar gyfer Newid yng Nghymru ac am y cytundeb i weithredu'r cynnydd Cyflog Byw. Noda fel a ganlyn:

1. The living Wage will increase from 1 January 2016 for all directly employed NHS staff to £8.25 per hour. Eligible staff will have their pay for January – March 2016 adjusted and arrears paid accordingly. From 2017 onwards, any future changes to the Living Wage hourly rate, which are accepted for implementation in NHS Wales, will be aligned to the NHS pay award date.

2. The revised pay scales for 2016-17, set out in this circular, apply from 1 April 2016. 

- All pay spine points have increased by one per cent, consolidated

- The on-call allowance will increase by one per cent to £18.54 per session for weekdays and weekends and £37.09 per session for public holidays with effect from 1 April 2016

- The sleeping-in allowance will increase by one per cent to £31.93 with effect from 1 April 2016.

3. The provisions of incremental pay progression will continue to apply.

Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru y bydd codiadau cyflog, gan gynnwys y cyflog byw, yn costio tua £40 miliwn y flwyddyn. Wrth dynnu sylw at y cynnydd parhaol o 1 y cant yng nghyflogau'r holl staff Agenda ar gyfer Newid yn y GIG yng Nghymru, dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd na fyddai unrhyw godiad cyflog i Uwch Swyddogion Gweithredol y GIG.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.